Event Info
Canllaw Oedran: 11+ oed
Rhediad: 85 munud/toriad 20 munud/45 munud
★★★★☆ “mor gyfareddol ag y mae’n anesmwyth.” Y Telegraph
Mae cynhyrchiad cwmni Flabbergast o Macbeth yn trin testun ac adrodd straeon yn drylwyr ac yn barchus wrth ddod â dehongliad hudolus, eglur o drasiedi waedlyd Shakespeare yn fyw.
Cyfunir pypedwaith, clown, ensemble, theatr gorfforol, a cherddoriaeth fyw gyffrous mewn dehongliad pwerus a phryfoclyd. Gyda set syml, dyluniad esthetig trawiadol, ac ensemble gwych o actorion, mae'r perfformiad hwn yn amlygiad tywyll a dwys o hanfod y gwaith a'i themâu sylfaenol, gan dynnu allan y cyfatebiaethau â chymdeithas fodern.
Y brif thema a'r naratif sylfaenol sy'n gyrru The Tragedy of Macbeth yw gwrywod yn ofni grym benywaidd; ac yn yr ystyr hwn, mae'r ddrama mor berthnasol heddiw ag y bu erioed. Mae Shakespeare Flabbergast ar gyfer pawb, yn ail-adroddiad ysgytwol a huawdl o stori gyffrous Shakespeare am helyntion bywyd.
★★★★★ “Dehongliad cyffrous a bywiog o Macbeth sy’n rhoi dwyster newydd i un o ddramâu mwyaf adnabyddus Shakespeare.” British Theatre Guide
Ymysg 9 Sioe Orau Gŵyl Ymylol Caeredin “ysgytwol …” Stewart Lee
★★★★★ Un o oreuon yr Ŵyl Ymylol Mervyn Strutter
★★★★★ “Peidiwch â methu hon, mae’n wirioneddol wych.” Bouquets and Brickbats
★★★★☆ “Mae benthyg theatr gorfforol i waith Shakespeare yn gweithio’n arbennig o dda!” Voice Mag
★★★★☆“Wow! … cynhyrchiad syfrdanol … pleser i’w wylio.” Mumble
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: darluniau steiliedig o drais / sŵn drymio / defnydd o fwg yn ystod y perfformiad
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.