Ewch at gynnwys

Artist Preswyl: Dorian Teti

Y Crochenydd Anhysbys – Achrestr o Ffurfiau

Mae’r Crochenydd Anhysbys yn ddarn o waith sy’n cymryd ei fan cychwyn o’r casgliad serameg ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel rhan o’m cyfnod preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ar ôl ymddiddori mewn cofnod penodol yn nghronfa ddata’r casgliad sy’n cyfeirio at eitemau nad oes ganddynt unrhyw briodoliad (yr adran “crochenydd anhysbys”), ‘rwy’n ceisio sefydlu diffiniad o’r hyn y gall serameg Gymreig fod. Ar yr un pryd, dechreuais gasglu eitemau serameg o siopau elusen niferus y dref, sy’n ffordd arall o godi cwestiwn pwy oedd crëwr eitemau o darddiad anhysbys. Yn cael fy arwain gan syniad goddrychol ac “egsotig” bron o’r hyn y gall serameg hollol Gymreig fod, daw’r darnau yn wrthrychau fector, sy’n cysylltu straeon personol â hanes casgliadol Cymru. Mae absenoldeb llofnod ar yr holl wrthrychau hyn yn caniatáu i mi eu neilltuo dros dro, er mwyn meddwl am ddiffiniad hyblyg, elastig bron, o gynhyrchiad lleol. Mewn gêm yn ôl ac ymlaen rhwng casgliad yr Ysgol Gelf, y siopau ail-law a’m gweithdy, ‘rwy’n ceisio priodoli nodweddion i lunio ffurfiau newydd, a thrwy hynny rhoi unigolrwydd yn ôl i’r darnau hyn a adawyd ar ôl.