Sioe Ffotograffiaeth Ddu a Gwyn 2025
Mae’r ffotograffau hyn yn ddetholiad o ddelweddau o’n dosbarthiadau ffotograffiaeth eleni. I greu’r lluniau hyn ‘rydym yn defnyddio technegau ‘hen ffasiwn’; camerâu ffilm ac ystafell dywyll gemegol y Ganolfan. Mae’r ffotograffwyr yn treulio oriau yn rhoi sylw i fanylion, yn paentio â golau, gan greu’r delweddau hyn. Cynhelir ein cwrs ffotograffiaeth ddu a gwyn cyfeillgar ar Nos Iau rhwng 6:30 a 8:30 p.m. Mae gennym sesiwn dwy-awr ymlaciol sy’n agored i bob lefel o allu a phrofiad, yn amrywio o ddechreuwyr llwyr i’r rai profiadol iawn.
Mae gan ein tiwtor Brian flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda phrosesau digidol a chemegol, yn ogystal â bod yn gerddor medrus ac yn artist tir. Mae’n hwylusydd grŵp gwybodus ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn gweithio ochr yn ochr â’n cyn-diwtor hynod boblogaidd Steve Bailey, ac mae wrth law i gynnig cymorth cyfeillgar pa bynnag arddull o greu delweddau sydd gennych ddiddordeb ynddi.
Am ragor o wybodaeth holwch staff y swyddfa docynnau a fydd yn hapus i ateb eich cwestiynau neu eich rhoi mewn cysylltiad â Brian a all ddweud mwy wrthych.
( llun ‘Tosturi’ Lin Huang )

1 / 1