Event Info
Mae'r Wardens yn cyflwyno eu pantomeim blynyddol ysblennydd
Robin Hood
Mae'r arbenigwr ar bantomeim Richard Cheshire yn dychwelyd i ysgrifennu a chyfarwyddo'r cynhyrchiad anhygoel hwn, gan serennu hefyd fel y Feistres. Unwaith eto bydd yr Elinor Powell wych yn gweithio ochr yn ochr ag ef fel y gyfarwyddwraig gerddorol.
Ymunwch â Robin Hood (a chwaraeir gan Alex Neil) a'i griw llawen, gan gynnwys Ioan Guile fel y Brawd Tuck, wrth iddynt frwydro yn erbyn Siryf cas Nottingham (Nathan Guy).
Yn ymuno â nhw bydd wynebau poblogaidd o gwmni’r Wardens - Theresa Jones, Donna Richards, Miriam Llwyd Davies, Sion Wyn, Julie McNicholls Vale a chwmni gwych o oedolion a phlant o'r gymuned leol.
Byddwch yn barod am setiau ysblennydd, coreograffi anhygoel, brwydrau ffantastig, eiliadau hudolus, a mwy.
Cynhelir perfformiad gydag Iaith Arwyddion Brydeinig (BSL) dyddiad i'w ddilyn
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad: 2 awr a hanner gan gynnwys toriad
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.