Event Info
26 + 27 o Dachwedd, 2025 am 10yb + 1ypOes ganddoch chi gyfrinach? Wel dyma i chi hanes rhywun sydd â chyfrinach fawr – Y Brenin March. Chi’n gweld, mae gan y Brenin glustiau ceffyl! Mae ganddo gywilydd mawr ohonyn nhw ac yn eu cuddio drwy’r dydd, bob dydd. Yr unig un arall sydd wedi gweld y clustiau ceffyl yw ei farbwr, Bifan sydd wedi cael ei siarsio i beidio dweud gair am y clustiau wrth neb …BYTH! Mae hyn yn faich anferth ar ysgwyddau Bifan druan. A fydd clustiau ceffyl y Brenin March yn aros yn gyfrinach?
Tocynnau: I archebu tocyn, cysylltwch â Cwmni Mega: tocyn@cwmnimega.cymru
Canllaw Oedran:
Rhediad: