Ewch at gynnwys
Event Image
Maw 17 Chw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG

Rhediad: I’w ddilyn

Band avant-pop Eingl-Ffrengig a ffurfiwyd yn Llundain ym 1990 yw Stereolab. O dan arweiniad y tîm cyfansoddi Tim Gane a Lætitia Sadier, mae sain y grŵp yn ymgorffori curiadau motorik ailadroddus gyda defnydd allweddellau electronig o’r gorffennol a lleisiau benywaidd yn canu yn Saesneg a Ffrangeg, gan dynnu ar ddylanwadau krautrock, ffync, jas, pop Ffrengig y 1960au a cherddoriaeth o Frasil. Mae gan y geiriau themâu gwleidyddol ac athronyddol wedi'u dylanwadu gan y mudiadau celf Swrrealaidd a Sefyllfaol.

Gwestai Arbennig Emma Tricca

Gyda chefnogaeth John Renbourn ac Odetta ar ddechrau ei gyrfa, ac wedi'i hannog bellach ymlaen gan Jane Weaver ac AndyVotel a ryddhaodd ei dau record cyntaf (Minor White a Relic), mae arddull unigryw'r gyfansoddwraig/gitarydd Emma Tricca wedi cael ei chymharu'n aml â chyfuniad o’r eiconau GreenwichVillage, Nico a Patti Smith.

Sylw Judy Collins ynglyn â chydweithiogydag Emma Tricca: “Mae gan Emma Tricca lais a gweledigaeth unigryw. Byddwn yn clywed oddi wrth y weledwraig greadigol hon am amser hir i ddod”.

Tocynnau ac Anghenion Mynediad: Mae'r tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn SEFYLL neu'n EISTEDD. 

  • SEFYLL: Os dewiswch SEFYLL, bydd gennych fynediad i awditoriwm y Neuadd Fawr, sydd â llawr - heb seddi. 
  • LLWYFAN MYNEDIAD: Os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn neu gydag anghenion mynediad, bydd gennym lwyfan gyda lleoedd cyfyngedig. Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau i ofyn am le. 
  • EISTEDD: Os dewiswch EISTEDD bydd eich sedd heb ei chadw yn un o'n balconi ochr. Nid oes opsiynau mynediad yn y balconi ochr.

Iaith y perfformiad: Saesneg a Ffrangeg

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mawrth 17 Chwefror, 2026
20:00