Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb ( dim plant 0-2 oed )
Rhediad: 50 munud/toriad 20 munud/35 munud
Ymunwch â ni ar gyfer noson hudolus yn Sioe Nadolig Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, mewn partneriaeth a Rotari Ardal Aberystwyth a Chyfeillion Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, ar nos Fawrth 16 Rhagfyr yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth. Bydd y dathliad tymhorol hwn yn cynnwys perfformiad o Atgof o’r Sêr gan y cyfansoddwr Cymreig enwog Robat Arwyn, a fydd yn arwain côr torfol cerddorion ifanc y Gwasanaeth Cerdd ynghyd â chôrau lleol eraill, a’r gwesteion arbennig Gwawr Edwards a John Ieuan Jones. Bydd y noson hefyd yn arddangos ystod eang o ensemblau talentog o’r Gwasanaeth Cerdd, gan addo noson o gerddoriaeth llawn hwyl Nadoligaidd.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.