Event Info
210 munud i’w gadarnhau 1 egwyl
Profiwch hanfod y bale Rhamantaidd yng nghynhyrchiad atmosfferaidd ac hudolus Peter Wright. Mae pŵer goruwchnaturiol Giselle yn ei gwneud yn un o'r enghreifftiau bale gorau o genre Rhamantaidd y 19eg ganrif.
Mae'r ferch werinol Giselle wedi syrthio mewn cariad gydag Albrecht. Pan mae'n darganfod ei fod mewn gwirionedd yn fonheddwr sydd wedi’i addo i un arall, mae'n lladd ei hun mewn anobaith. Mae ei hysbryd yn ymuno â'r Wilis - ysbrydion dialgar menywod sy'n benderfynol o ladd unrhyw ddyn sy'n croesi eu llwybr mewn dawns hyd farwolaeth. Yn llawn euogrwydd, mae Albrecht yn ymweld â bedd Giselle, lle mae'n gorfod wynebu'r Wilis - ac ysbryd Giselle.
Mae cynhyrchiad 1985 Peter Wright o'r bale Rhamantaidd hwn yn glasur yn repertoire y Bale Brenhinol. Wedi'i gosod i sgôr atgofus Adolphe Adam a gyda dyluniadau atmosfferaidd gan John Macfarlane, mae stori Giselle yn dwyn i gof bydoedd daearol ac arallfydol mewn stori am serch, brad a gwaredigaeth.