Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 10 Rhag - Llun 15 Rhag
·
Sinema

Event Info

210 munud i’w gadarnhau 1 egwyl

Mae cynhyrchiad Peter Wright o’r Nutcracker wedi bod yn swyno plant ac oedolion fel ei gilydd ers ei berfformiad cyntaf gan y Bale Brenhinol ym 1984. Yn cynnwys rhai o alawon mwyaf adnabyddus Tchaikovsky, mae'r bale clasurol poblogaidd hwn yn wledd i'r teulu cyfan.

Mae angen i'r consuriwr Herr Drosselmeyer achub ei nai. Mae Hans-Peter wedi cael ei drawsnewid yn Nutcracker a’r unig ffordd i'w achub yw iddo orchfygu Brenin y Llygod a dod o hyd i ferch i'w garu a gofalu amdano. Daw ychydig o obaith ar ffurf y Clara ifanc y mae Drosselmeyer yn cwrdd â hi mewn parti Nadolig. Gyda rhywfaint o hud, mae parti Nadolig clyd yn troi'n anturiaeth ryfeddol.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 10 Rhagfyr, 2025
19:15
Dydd Llun 15 Rhagfyr, 2025
13:00