Event Info
240 munud i’w gadarnhau 2 egwyl
Cenir yn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg
Ceir thema byw a charu, hyd yr anadl olaf, yng nghynhyrchiad Richard Eyre o opera odidog Verdi. Mae ariâu torcalonnus yn cwrdd â realiti llym yn y stori gyfareddol hon, a chewch brofi prydferthwch anhygoel cerddoriaeth Verdi mewn rhai o alawon enwocaf opera.
Yn ystod un o'i phartïon moethus, cyflwynir y butain llys enwog o Baris, Violetta, i Alfredo Germont. Mae'r ddau yn syrthio mewn cariad dros eu pennau a’u clustiau, ac er ei bod yn betrusgar ynglyn â gadael ei bywyd moethus a’i rhyddid ar ôl, mae Violetta yn dilyn ei chalon. Ond nid yw hapusrwydd y cwpl ifanc yn para, wrth i realiti llym bywyd ddod i'r amlwg yn fuan.
Mor agos atoch ag y mae'n foethus, mae La traviata yn cynnwys rhai o alawon enwocaf opera, ac mae'n rhoi llwyfan serol i’w phrif rôl soprano a genir gan Ermonela Jaho. Ym myd ysblander dengar y cyfarwyddwr Richard Eyre, mae'r harddwch tyner a dinistriol yng nghanol opera Verdi yn disgleirio'n llachar.