Event Info
3 awr, 1 egwyl
Cenir yn Almaeneg gydag is-deitlau
Mae opera fendigedig Mozart yn disgleirio yng nghynhyrchiad hudolus David McVicar.
Mae'r Dywysoges Pamina wedi'i chipio. Mae ei mam, Brenhines y Nos, yn rhoi'r dasg o achub ei merch i'r Tywysog ifanc Tamino. Ond pan mae Tamino a'i gymar cyfeillgar, Papageno, yn cychwyn ar eu hanturiaeth, maent yn dysgu'n fuan pan mae’n fater o chwilio am gariad, nad yw dim fel y mae'n ymddangos mewn gwirionedd. Yn cael eu tywys gan ffliwt hudolus, maent yn dod ar draws angenfilod, dihirod, a brawdoliaeth ddirgel o ddynion - ond daw cymorth, fel mae’n troi allan, pan fyddwch leiaf yn ei ddisgwyl.
Cast serol gan gynnwys Julia Bullock fel Pamina, Amitai Pati fel Tamino, Huw Montague Rendall fel Papageno, Kathryn Lewek fel Brenhines y Nos, a Soloman Howard fel Sarastro, dan arweiniad yr arweinydd Ffrengig Marie Jacquot yn ei hymddangosiad cyntaf yn Covent Garden.