Ewch at gynnwys

Artist Preswyl: Quentin Marais

Mae’r preswylfa ryngwladol newydd yma yn canolbwyntio ar serameg, gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gelf Gyfoes Passerelle yn Brest a Chanolfan Gelf Gyfoes La Criée yn Rennes, Llydaw, gyda’r nod o ddatblygu cyfnewid diwylliannol ym maes crefft yn benodol.

Mae Quentin Marais yn artist/crochenydd sefydledig o Lydaw, Ffrainc. Astudiodd serameg ym Mharis ac yn ne Ffrainc, gan ddatblygu ei ymarfer trwy gomisiynau ar gyfer arddangosfeydd, preswylfeydd, perfformiadau, a cherflunwaith ar y cyd. Clai yw ei hoff ddeunydd wrth greu. Mae’n gwneud ei ddarnau mewn crochenwaith neu borslen yn defnyddio plât, modelu, neu dechneg columbin cyn eu tanio mewn ocsidiad ar dymheredd o 1280°.

I ddechrau, ‘roedd ei waith yn seiliedig ar brofiadau ei blentyndod – dychymyg ac atgofion am leoedd, trefi, dinasoedd, gwrthrychau, a bywyd bob dydd o’r cyfnod hwn. Mae’n creu gydag ystumiau, gemau, lluniau a lliwiau ei ieuenctid. Mae ei waith yn symud rhwng darnau defnyddiol a cherfluniol, gan newid o’r ffigurol i’r haniaethol. Mae clai yn rhoi’r rhyddid hwn iddo, gan gynnig hyblygrwydd rhwng y defnyddiol a’r di-ddefnydd ac yn datgelu’r cysylltiad rhwng y dychmygol a’r sylweddol.

Mae’r rhaglen gyfnewid hon wedi rhoi cyfle i’r artist serameg o Gymru, Bonnie Grace, a’r artist o Lydaw, Quentin Marais, dreulio cyfnod preswyl o 1 mis yn Llydaw a Chymru. Diolch i Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Chanolfan Gelf Gyfoes Passerelle yn Brest a Chanolfan Gelf Gyfoes La Criée am ariannu’r prosiect hwn.