Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 15 Tach
·
Sinema

Event Info

(Stewart Buck & Stéphane Piter, DU 2025, 90 mun) – PREMIERE Y DU] + C&A

Yn cael ei chynhyrchu ers dros ddegawd, mae'r ffilm ddogfen unigryw, fanwl hon am greu clasur Michael Mann, The Keep, yn taflu goleuni ar ffilm gwlt sydd wedi'i difrïo'n annheg. Mae’n cloddio'n ddwfn i ddatgelu'r heriau rhyfeddol yr oedd gwneuthurwyr y ffilm yn eu hwynebu, y mythau ynghylch y fersiwn derfynol a ryddhawyd, ac yn bwysicaf oll yn dathlu gwaith allweddol cymaint o aelodau'r criw a gyfrannodd at weledigaeth yr honedig auteur hwn.

Dangoswyd The Keep o ffilm 35mm aflawen ‘nôl yn nyddiau cynharaf Abertoir, felly mae'n teimlo'n briodol dathlu'r adferiad 4K newydd yn ein pen-blwydd yn 20 oed gyda'r ffilm ddogfen oleuedig a manwl hon hefyd.

Mae’n dangos gydag Into the Darkness: Filming The Keep in Wales, ffilm ddogfen fer 30 munud am wneud y ffilm ar leoliad yn chwarel Glyn Rhonwy, Llanberis, ac Ogofâu Llechwedd, Blaenau Ffestiniog.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 15 Tachwedd, 2025
14:10