Event Info
(James Whale, UDA 1932, 71 mun)
Wedi’u dal mewn storm dreisgar, mae grŵp o deithwyr sy’n sownd yng Nghymru yn dod ar draws hen dŷ rhyfedd ac yn ceisio lloches yno, ac yn darganfod eu hunain ar drugaredd y trigolion hynod ecsentrig, bosib peryglus, sy’n byw yno.
Wedi’i gwneud dim ond blwyddyn ar ôl Frankenstein eiconig James Whale, mae hon yn dro hwyliog a chomig ar y gothig, a ffilm a helpodd i atgyfnerthu ymhellach yr arddull ‘hen dŷ tywyll’ rydyn ni’n gyfarwydd â fo heddiw. Fe’i hystyriwyd ar goll am flynyddoedd lawer, dim ond i gael ei hailddarganfod yn y pen draw a’i hadfer yn hyfryd. Yn llawn awyrgylch gothig a synnwyr digrifwch tywyll hyfryd, mae’n nodedig am rannu llawer o aelodau’r cast gyda’i pherythnas stiwdio mwy enwog, The Bride of Frankenstein, ac wrth gwrs ei chyfarwyddwr. Mae The Old Dark House yn disgleirio fel ffilm arswyd glasurol gynnar Universal bwysig – a hwyliog! – sy’n wirioneddol haeddu cael ei hailddarganfod eto.