Event Info
GŴYL FFILM WOW YN CYFLWYNO / WOW FILM FESTIVAL PRESENTS:
Ackroyd & Harvey: The Art of Activism (12A)
Fiona Cunningham-Reid, y DU 2025, 77 munud
Fel rhan o'i rhaglen WOW Around Wales, mae Gŵyl Ffilm WOW yn cyflwyno'r portread agos-atoch hwn o'r artistiaid rhyngwladol clodwiw Heather Ackroyd a Dan Harvey. Gan weithio ar groesffordd celf, actifiaeth, bioleg ac ecoleg, mae'r ddeuawd yn defnyddio creadigrwydd fel catalydd ar gyfer newid, gan wynebu'r argyfwng hinsawdd a'n herio ni i gyd i weithredu - beth bynnag yw’r gost bersonol.
Gyda chyflwyniad a thrafodaeth, dim hysbysebion.