Event Info
Canllaw Oedran: Croeso i bawb
Rhediad: 60 munud + Cwrdd wedi'r Sioe (Meet & Greet) am 45 munud
Mae'r bardd adnabyddus Michael Rosen yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed gyda sioe fyw newydd sbon!
Mae Michael yn edrych yn ôl ar oes mewn barddoniaeth, gan berfformio clasuron poblogaidd yn cynnwys Hot Food, No Breathing a Chocolate Cake, ynghyd â cherddi nas clywyd erioed o'r blaen o'i gasgliad newydd Peas On Your Knees.
Mae NICE! yn sioe i bob oedran, o'r ifanc i'r ychydig yn hŷn!
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.