Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 27 Tach
·
Exhibitions

Event Info

27ain Tachwedd, Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 11:00 am - 1:30 pm

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â ni yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i wylio sgwrs ar-lein gyda'r artist Sawangwongse Yawnghwe, sydd ar hyn o bryd yn arddangos gyda ni fel rhan o arddangosfa Artes Mundi.Mae cyfle hefyd i gael taith tywys yn yr oriel o'r arddangosfa rhwng 11-11.30am cyn gwylio y sgwrs ar-lein. Gallwch ddod am hyd cyfan y digwyddiad, neu i elfennau penodol fel y dymunwch.

Amserlen:

11-11.30am -Taith o amgylch yr arddangosfa dan arweiniad Elena Blackmore, Oriel 1

11:30-12pm- egwyl

12- 1:30pm - Sgwrs Wrth y Bwrdd, Sinema

AM DDIM

Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council, cyflwynir Artes Mundi sgwrs ‘Wrth y Bwrdd/At The Table’ cyntaf o gyfres o chwech, am ddim, ar gyfer AM11.

Bydd Sawangwongse Yawnghwe yn sgwrsio â Zoe Butt, curadur ac awdur, sy’n meithrin meddwl beirniadol a chymunedau artistig sy’n ymwybodol o hanes, gan annog deialog rhwng diwylliannau de’r byd. Mars Da Silva Saude yn artist ac ymchwilydd sy’n creu cyfryngau sy’n seiliedig ar amser yn ymwneud â hanesion ymylol, barddoniaeth awtistig, tirwedd, gwleidyddiaeth radical, dogfennaeth, a thestunau a Jonathan Mitchell, uwch darlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ystod o faterion mewn athroniaeth gyfoes meddwl a ffenomenoleg.

Daw’r gyfres ‘Wrth y Bwrdd/At The Table’ â lleisiau chwech o’r artistiaid AM11 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.

Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u gwaith.

Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.

Ganwyd Sawangwongse Yawnghwe i deulu brenhinol Yawnghwe. Ei daid, Sao Shwe Thaik, oedd arlywydd cyntaf Undeb Burma (1948-1962) ar ôl annibyniaeth o Brydain. Yn dilyn gwrthryfel milwrol ym 1962, alltudiwyd teulu Yawnghwe, i Wlad Thai yn gyntaf ac wedyn i Ganada, lle cafodd ei fagu. Mae paentiadau Yawnghwe yn ymdrin yn benodol â gwleidyddiaeth trwy’r hanes teuluol hwn a digwyddiadau cyfoes a hanesyddol ym Myanmar i drafod helyntion cysylltiedig â chyffuriau, byddinoedd chwyldroadol a thrais y wladwriaeth, gyda’r nod o fwrw goleuni ar ddarlun gwleidyddol cymhleth.

Mae Zoe Butt yn guradur ac yn awdur, sy’n meithrin meddwl beirniadol a chymunedau artistig sy’n ymwybodol o hanes, gan annog deialog rhwng diwylliannau de’r byd. Yn 2022 sefydlodd ‘in-tangible institute’, gan chwilio am ecoleg gadarn ar gyfer talent curadurol sy’n ymateb yn lleol yn Ne-ddwyrain Asia. Ar hyn o bryd mae’n Ymgynghorydd Arweiniol (De-ddwyrain Asia ac Oceania), Sefydliad Celf Kadist. Cyn hynny, arferai fod yn Gyfarwyddwr Artistig, Canolfan Gelf Gyfoes The Factory, Ho Chi Minh City (2017-2021), Cyfarwyddwr Gweithredol, Sàn Art, Ho Chi Minh City (2009–2016); Cyfarwyddwr, Rhaglenni Rhyngwladol, Prosiect Long March, Beijing (2007–2009); Curadur Cynorthwyol, Celf Gyfoes Asia, Oriel Gelf Queensland, Brisbane (2001–2007).

Mae Mars da Silva Saude yn artist ac ymchwilydd sy’n creu cyfryngau sy’n seiliedig ar amser yn ymwneud â hanesion ymylol, barddoniaeth awtistig, tirwedd, gwleidyddiaeth radical, dogfennaeth, a thestunau. Mae ei gwaith yn cynnwys ffilmiau 16mm, ffotograffiaeth, darlithoedd darluniadol perfformiad, a sain. Mae’n ddinesydd Portiwgaleg wedi’i fagu yng Nghaliffornia, mae Saude nawr yn byw ac yn gweithio yn Aberystwyth, Cymru. Comisiynwyd Saude gan Artes Mundi i greu darn testun sy’n ymateb i waith Yawnghwe ar gyfer – beside/gerllaw: cyfres o gomisiynau a gynhyrchwyd ar gyfer Artes Mundi 11 gyda Testun testun, platfform annibynnol newydd i feithrin y sffêr sgwennu/celf yng Nghymru.

Mae Jonathan Mitchell yn Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ystod o faterion mewn athroniaeth gyfoes meddwl a ffenomenoleg. Mae’n awdur o ddau lyfr gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen, un yn canolbwyntio ar natur emosiynau, ac un arall ar ffenomenoleg profiadau gweledol.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 27 Tachwedd, 2025
11:00