Event Info
Gyda thros 500,000 o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a llu o sioeau a werthwyd allan ledled y wlad, mae Brian Bilston yn un o feirdd mwyaf poblogaidd y DU.
Mae wedi cyhoeddi sawl casgliad hynod lwyddiannus o farddoniaeth gan gynnwys You Took the Last Bus Home; Alexa, what is there to know about love? a Days Like These. Cyrhaeddodd ei nofel Diary of a Somebody y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Costa, ac mae hefyd wedi ysgrifennu casgliadau o farddoniaeth ar gyfer darllenwyr iau. Yn 2025 rhyddhaodd albwm o farddoniaeth wedi'i gosod i gerddoriaeth, Sounds Made by Humans, mewn cydweithrediad â The Catenary Wires.
‘Nawr mae Brian yn dychwelyd i'r llwyfan gyda'i lyfr diweddaraf, How to Lay an Egg with a Horse Inside. Byddwch yn barod am noson o gomedi a chwerthin, wrth iddo ein tywys trwy bopeth yn ymwneud â darllen, ysgrifennu a mwynhau barddoniaeth bob dydd.
Cyfryngau cymdeithasol a Gwefan:
brianbilston.com/
Instagram: @brian_bilston
Facebook.com/brianbilston
Bluesky: @brianbilston.bsky.social
Canllaw Oedran: Croeso i bawb
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.