Event Info
Ffair Astudio Ôl-raddedig
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
25/02/2026
16:30 - 19:00
Os ydych chi'n ystyried astudiaethau ôl-raddedig - boed yn radd a ddysgir fel MA, gradd ymchwil fel PhD, tystysgrif neu ddiploma - ymunwch â ni i ddarganfod:
- Cyrsiau ac opsiynau astudio ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Sut y gall astudiaethau ôl-raddedig wella eich rhagolygon gyrfa
- Ysgoloriaethau a chyfleoedd ariannu
- Ein staff academaidd a’n cyfleusterau dysgu
- Llety a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr
Bydd hefyd cyfle i siarad â myfyrwyr ôl-raddedig presennol a chlywed am eu profiadau.
Cofrestrwch nawr: aber.ac.uk/ffairolraddedig