Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 6 Chw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Mae Ffocws Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth wrth eu bodd yn cyhoeddiTrawsnewid : Transform 2026Mae Trawsnewid: Transform yn dychwelyd i Aberystwyth ar Chwefror 6-7, 2026. Mae'r ŵyl unigryw ddeuddydd hon, a gyflwynir gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth a FOCUS Wales, yn arddangos artistiaid blaenllaw Cymru mewn cymysgedd ymdrochol o gerddoriaeth fyw ac effeithiau gweledol arloesol a grëir gan yr artistiaid, gan drawsnewid y Ganolfan yn lle chwarae sain a golau.

Perfformwyr:

A Guy Called Gerald | Adult DVD | Georgia Ruth | Lemfreck | Gallops | YNYS | Source | Malan | Claire Vine | Resonate Djs | Sgarmes | Panorama Mapping | The Bug Club | Melin Melyn | Tristwch y Fenywod | Cowbois Rhos Botwnnog | HMS Morris | Xempa | Talulah | Tai Haf | Heb Drigolyn | Mail Hâf | Cymbient | Mowbird | 2080s | Missing Persons Bureau | Don Leisure: Tyrchu Sain 

Sgyrsiau gyda/ Talks with: Garlleg | Fire in the Mountain | FOCUSs Wales | Resonate | AAC 

analog

Mae analog yn llinyn newydd sbon o ddigwyddiadau yng ngŵyl Trawsnewid : Transform.

Rhaglen o sgyrsiau, cyflwyniadau a pherfformiadau manwl, oddi wrth ac ar gyfer meddyliau creadigol 

Llwyfan Sinema, Canolfan y Celfyddydau

1:30yp - 2:30yp - A Guy Called Gerald in conversation with Don Leisure 

Enw eiconig mewn cerddoriaeth ddawns, mae A Guy Called Gerald yn sefyll allan am arloesedd cyson, rhagoriaeth a gwrthod cyfaddawdu. A Guy Called Gerald oedd y sawl tu ôl i gic gyntaf y sin acid house yn Ewrop gan ryddhau'r record acid house gyntaf yn y DU, sef clasur '88 'Voodoo Ray' a 'Pacific State' ac aeth ymlaen i osod y glasbrint ar gyfer jungle a drum n bass. Mewn sgwrs gyda'r DJ, Cynhyrchydd, artist ac enillydd Gwobr Gerddoriaeth Cymru, Don Leisure.

3yp - 4yp - Panel: Datblygu a Thyfu Cyflwynwyr Creadigol Cymru yn trafod eu crefft a dyfodol cynhyrchu a chyflwyno digwyddiadau diwylliannol cartref, annibynnol yng Nghymru.

4:30yp - 2080s: gosodiad a pherfformiad byw

+ mwy o ddigwyddiadau i'w cadarnhau

14+ oed YN UNIG: Bydd rhaid i bob un 14 - 17 oed dod yng nghwmni oedolyn. Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.
Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 06 Chwefror, 2026
17:30