Event Info
Mae Ffocws Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth wrth eu bodd yn cyhoeddi
Trawsnewid : Transform 2026
Mae Gŵyl Trawsnewid y dychwelyd i Aberystwyth yn 2025!
Gallwch ddisgwyl penwythnos llawn cerddoriaeth anhygoel ac effeithiau gweledol syfrdanol.
Prif Berfformwyr:
The Bug Club
Melin Melyn | Tristwch y Fenywod | Cowbois Rhos Botwnnog | HMS Morris | Xempa | Talulah | Tai Haf | Heb Drigolyn | Mail Hâf | Cymbient | Mowbird | 2080s | Missing Persons Bureau | Don Leisure: Tyrchu Sain | Panorama Mapping.
Sgysiau gyda: Garlleg | Fire in the Mountain | FOCUS Wales | Resonate | AAC
analog
Mae analog yn llinyn newydd sbon o ddigwyddiadau yng ngŵyl Trawsnewid : Transform.
Rhaglen o sgyrsiau, cyflwyniadau a pherfformiadau manwl, oddi wrth ac ar gyfer meddyliau creadigol
Llwyfan Sinema, Canolfan y Celfyddydau
1:30yp - 2:30yp - A Guy Called Gerald in conversation with Don Leisure
Enw eiconig mewn cerddoriaeth ddawns, mae A Guy Called Gerald yn sefyll allan am arloesedd cyson, rhagoriaeth a gwrthod cyfaddawdu. A Guy Called Gerald oedd y sawl tu ôl i gic gyntaf y sin acid house yn Ewrop gan ryddhau'r record acid house gyntaf yn y DU, sef clasur '88 'Voodoo Ray' a 'Pacific State' ac aeth ymlaen i osod y glasbrint ar gyfer jungle a drum n bass. Mewn sgwrs gyda'r DJ, Cynhyrchydd, artist ac enillydd Gwobr Gerddoriaeth Cymru, Don Leisure.
3yp - 4yp - Panel: Datblygu a Thyfu Cyflwynwyr Creadigol Cymru yn trafod eu crefft a dyfodol cynhyrchu a chyflwyno digwyddiadau diwylliannol cartref, annibynnol yng Nghymru.
4:30yp -2080s: gosodiad a pherfformiad byw
+ mwy o ddigwyddiadau i'w cadarnhau
14+ oed YN UNIG: Bydd rhaid i bob un 14 - 17 oed dod yng nghwmni oedolyn.