Event Info
“Am sioe wych!” - ART GARFUNKEL
Ychydig iawn o sioeau sydd wedi mwynhau llwyddiant ysgubol byd-eang The Simon & Garfunkel Story, gyda llwyth o sioeau’n gwerthu allan mewn dros 50 o wledydd ledled y byd a thros 20 o berfformiadau blaenllaw yn West End Llundain, gan gynnwys ymddangosiadau yn y London Palladium byd-enwog.
Gan ddefnyddio lluniau enfawr wedi’u taflunio a ffilm wreiddiol, mae'r sioe boblogaidd ryngwladol hon yn adrodd hanes sefydlu a chodiad meteoraidd Simon a Garfunkel, wedi'i gyfuno'n ddi-dor gyda band byw llawn yn perfformio'r holl ganeuon poblogaidd gan gynnwys Mrs Robinson, Cecilia, Bridge Over Troubled Water, Homeward Bound a llawer mwy.
Gyda’r gynulleidfa ar eu traed ar ddiwedd pob perfformiad o’r sioe yr oedd Art Garfunkel ei hun yn ei chanmol i’r eithaf, ni fyddwch am golli’r wledd ryngwladol hon!
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: 60 munud/toriad 20 munud/60 munud
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Goleuadau yn fflachio, sŵn uchel
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.