Event Info
Ryan Coogler, UDA 2025, AD, 138 munud
Ail-ymwelwch â hanes sinema ar y sgrîn fawr gyda'r unig ffilm i ennill 16 o enwebiadau ar gyfer Gwobr Academi. Wedi'i lleoli ym Mississippi yn y 1930au, mae Michael B. Jordan yn serennu yn stori dau frawd sy'n dychwelyd i'w tref enedigol i adael eu bywydau cythryblus ar ôl, ond yn darganfod bod ‘na rywbeth drwg yn aros amdanynt ... Gyda'i sinematograffi a'i dyluniad cynhyrchu gweledol cyfoethog, mae’r ffilm hon yn gymysgedd cyffrous a beiddgar o genres sy'n llawn haeddu ei statws yn torri pob record.