Event Info
Yr Ysgol Lwyfan yn cyflwyno
Beauty and the Beast Jr
Yn seiliedig ar y cynhyrchiad Broadway gwreiddiol a'r ffilm a enillodd Wobr yr Academi, mae Beauty and the Beast Jr gan Disney yn addasiad gwych o stori trawsnewid a goddefgarwch. Mae Beauty and the Beast Jr gan Disney yn cynnwys rhai o'r caneuon mwyaf poblogaidd a ysgrifennwyd erioed gan Alan Menken a'r diweddar Howard Ashman, ynghyd â chaneuon newydd gan Mr. Menken a Tim Rice.
Mae'r stori glasurol yn adrodd hanes Belle, dynes ifanc mewn tref daleithiol, a'r Bwystfil, sydd mewn gwirionedd yn dywysog ifanc sydd wedi'i ddal dan swyn hudoles. Os gall y Bwystfil ddysgu caru a chael ei garu, daw’r felltith i ben a chaiff ei newid yn ôl i'w gyn-hunan. Ond mae amser yn rhedeg allan. Os nad yw’r Bwystfil yn dysgu ei wers yn fuan, bydd ef a'i deulu wedi'u tynghedu am byth.
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad:70 munud gan gynnwys egwyl
Iaith y perfformiad:Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.