Event Info
Uchino Seiyo, Siapan 2024,
120 munud, is-deitlau Comedi chwareus hwyliog oddi
wrth gyfarwyddwr One Cut of the Dead.
Mae Jiro (Uchino Seiyo) yn weithiwr sydêt mewn swyddfa dreth sy'n dioddef sgam
clyfar gan y twyllwr Makoto (Okada Masaki), gan golli ffortiwn. Wrth wynebu'r
twyllwr, mae hwnnw’n cyflwyno cynllun iddo: os gall Jiro ei helpu i dwyllo teicŵn cyfrwys anonest sydd wedi
bod yn osgoi biliynau mewn trethi (ac y mae swyddfa Jiro wedi bod yn ceisio'i
ddal, yn aflwyddiannus), yna bydd e’n cael ei arian yn ôl. Er gwaethaf ei
amheuon fel gwas cyhoeddus gonest, mae'n cytuno, a gyda'i gilydd maent yn hel
at ei gilydd tîm o fisffitiaid lliwgar i lunio cynllun beiddgar i adennill y
ffortiwn …