Event Info
Sioe Fyrfyfyr Paul Merton a Suki Webster
Noson o gomedi fyrfyfyr syfrdanol a gyflwynir gan ddau o’r meistri ar y ddawn yn y DU gyda'u hen ffrind, y meistr byrfyfyr, Mike McShane, a llu o westeion arbennig. Sioe fyrfyfyr chwim, ffraeth, hynod ddoniol yn cynnwys gemau, golygfeydd, straeon a swrrealaeth - byddwch yn eich dyblau’n chwerthin!
“YMYSG Y GORAU YN Y BUSNES ERS BLYNYDDOEDD … STEIL, NONSENS, DYFEISGARWCH A LLOND BOL O CHWERTHIN.” ★★★★★ One4Review
“SIOE LLAWN CHWERTHIN …YN GWBL ABSẂRD.” ★★★★ Broadway Baby
“MAE MERTON A WEBSTER WEDI SEFYLL EU HUNAIN FEL DAU O ORAU'R DU … MAE'R SIOE HON YN GOMEDI FYRFYFYR AR EI CHRYFAF.” ★★★★
Canllaw Oedran: 15+ oed
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: I'w ddilyn
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.