Mae Cecile Johnson Soliz yn Americanaidd ail genhedlaeth o dreftadaeth Bolifiaidd a gafodd ei magu yng Nghaliffornia, Mecsico, Bolifia, Brasil, Ghana, ac Yr Eidal cyn dod i’r Deyrnas Unedig i astudio celf gain yng Ngholeg Celf Caerdydd a Goldsmiths. Mae Sgwrs Siop yn uno cerfluniau, lluniadau, gwisgoedd, dillad a serameg i greu oriel llawn gwrthrychau sy’n ‘cynnal sgwrs’ â’i gilydd. Mae’n creu croestoriad rhwng ystafell storio oriel a ffenestr siop, gan cyfuno celf gain, crefft a dylunio.