Gallwn gadw tocynnau a archebir yn eich enw am bedwar diwrnod. Ar ôl hynny, cânt eu rhyddhau i’w gwerthu. Os byddwch yn archebu tocynnau ar ddiwrnod y digwyddiad/ffilm, bydd yn rhaid i chi dalu’n llawn wrth archebu. Os byddwch wedi archebu tocynnau a heb dalu amdanynt erbyn diwrnod y digwyddiad/ffilm, cânt eu rhyddhau i’w gwerthu.
Bydd tâl na ellir ei ad-dalu yn cael ei roi ar bob tocyn i dalu am gost gweinyddiaeth.
Os na allwch ddod i berfformiad neu ffilm yr ydych wedi archebu tocynnau ar eu cyfer, gallwch anfon eich tocynnau yn ôl hyd at ddau ddirwrnod cyn y perfformiad ac fe anfonwn nodyn credyd llawn atoch. Neu gallwn newid eich tocynnau am berfformiad mwy cyfleus o’r un sioe neu ffilm. Os bydd y tocynnau i gyd wedi’u gwerthu, fe wnawn ein gorau i ailwerthu eich tocynnau i chi heb gost ychwanegol (ond ni allwn addo gwneud hyn).
Maen rhaid i chi roi pedair wythnos o rybudd er mwyn cael ad-daliad. Os byddwch yn canslo ar ôl hynny, codir y tal llawn. Mae Canolfan y Celfyddydau’ cadw’r hawl i ganslo cyrsiau ac, os digwydd hyn, bydd y ffioedd yn cael eu had-dalu’n llawn.
Visa, Mastercard, American Express, Switch – Caiff archebion a wneir trwy gerdyn credyd eu cadarnhau ar unwaith.
Yn aml, cynigir gostyngiadau ar gyfer grwpiau o 8 neu fwy – ffoniwch 01970 623232
Nodir y prisiau gostyngol mewn cromfachau trwy’r daflen hon. Mae’r pris hwn ar gael i bobl 60+ sydd wedi ymddeol yn llwyr, pobl ifanc o dan 16 oed, myfyrwyr amser llawn, pobl ddi-waith a phobl anabl.
Er mwyn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar gwsmeriaid eraill a pherfformwyr, gellir gofyn i bobl sy’n cyrraedd yn hwyr aros tan y bydd yn gyfleus cyn mynd i mewn i awditorium. Ni fydd pobl sy’n colli rhannau o berfformiadau am eu bod yn hwyr yn cael ad-daliad.