Arweiniad ac eiriolaeth
Mae ein Grŵp Cynghori yma i’n cefnogi drwy gynnig mewnbwn gwerthfawr i’n gwaith a’n strategaethau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn gweithredu fel eiriolwr i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ledled Cymru.
Mae’r grŵp yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau a’r hyn rydym yn ei wneud, waeth beth fo’u cefndir neu leoliad. Rydym yn croesawu unigolion o bob disgyblaeth ac arfer, p’un a ydynt wedi’u lleoli yng nghanolbarth Cymru, ledled y wlad, neu ymhellach i ffwrdd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein Grŵp Cynghori yn cynrychioli ystod amrywiol o bobl, gan gynnwys y rhai o wahanol rywiau, oedran, gallu, hil a chyfeiriadedd rhywiol, er mwyn sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau yn cael eu cynrychioli.
Aelodau presennol y Grŵp Cynghori
Chris Harris – Awdur a dramaydd
Carol Nixon – Cyfeillion Canolfan y Celfyddydau
David Evans – Pennaeth Cynhyrchu yn National Theatre Wales ac aelod o ABTT Cymru
Berwyn Rowlands – Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris
Rachel Stelmach – Swyddog Rhanbarthol Gorllewin Cymru ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru
Heike Roms – Athro mewn Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Caerwysg a chyfarwyddwr prosiect What’s Welsh for Performance?
Bryn Jones – Celfyddydau ac Iechyd HAUL, cyn gyfarwyddwr hyb Penparcau gyda blynyddoedd lawer o brofiad ym maes datblygu cymunedol
Eric Ngalle Charles – Bardd, awdur, dramodydd a ffoadur o Camerŵn sydd bellach yn byw yn Nhrelái, Cymru.
Rhiannon White – Cyd-Gyfarwyddwr Artistig Common Wealth
Elan Clos Stephens CBE – addysgwr Cymraeg a chynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC
Cynrychiolir Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth hefyd.