Ewch at gynnwys

Cyfleoedd Llawrydd ar unwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau fel rhan o fenter Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru

Dewiswyd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i fod yn rhan o fenter gyffrous a fydd yn sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yng Nghymru (NCAGW). Yn seiliedig ar fodel gwasgaredig, mae NCAGW yn Bartneriaeth rhwng  Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Davies yn y Drenewydd, Storiel ym Mangor, Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefft Rhuthun, Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.

Cefnogir y fenter yn ariannol gan Lywodraeth Cymru a’i nod yw dod â gweithiau celf o’n casgliadau cenedlaethol, y gofelir amdanynt gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn nes at gymunedau drwy eu harddangos yn y lleoliadau sy’n rhan o’r bartneriaeth, i’w cynnwys mewn rhaglenni arddangos a gwaith allanol. Ochr yn ochr â hyn yw’r dymuniad i ddatblygu cyfleoedd comisiynu, ymgysylltu ac arddangos, sy’n tynnu ar ac yn cefnogi artistiaid cyfoes Cymru.

Fel menter genedlaethol, mae NCAGW yn anelu at weithredu o blaid ymarfer creadigol cyfoes ac ehangu cynulleidfaoedd a rhyngweithio, yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae’r model gwasgaredig hwn yn ddull uchelgeisiol sy’n ceisio ymateb i ddiddordebau cymunedau ac adeiladu cefnogaeth gydlynol ac hyrwyddo celf gyfoes yng Nghymru ac o Gymru.

Fel rhan o’r fenter hon, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn edrych am 3 ymgynghorydd llawrydd tymor-byr ar unwaith i’n cefnogi i gynllunio sut y gall menter NCAGW fod yn rhan o’n rhaglen gelfyddydau gweledol gyfoes brysur, a helpu i’w datblygu.

Bydd pob ymgynghorydd yn brofiadol, yn fedrus, yn angerddol, ac yn hyderus wrth gynllunio, ymchwilio a chyflwyno gwybodaeth i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar yr amrediad deinamig posibl o weithgareddau a fyddai’n galluogi mwy o gymunedau ac artistiaid i ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol cyfoes yng Nghymru ac elwa arnynt.

Hoffem ymchwilio i 3 maes gwahanol:

Cyfleoedd Llawrydd

‘Rydym yn edrych am unigolyn llawrydd gydag angerdd tuag at gelf gyfoes a gwir ddealltwriaeth o Gymru, y celfyddydau a chynulleidfaoedd.

Bydd y prosiect yn ystyried pa weithgaredd marchnata a gwaith allanol sy’n bosibl trwy archwilio data, ymchwilio i farchnadoedd a photensial y gynulleidfa, a chanfod opsiynau a strategaethau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata a fydd yn ein galluogi i dyfu ein cynulleidfaoedd 3% flwyddyn ar ôl blwyddyn.

‘Rydym yn edrych am ymgynghorydd celfyddydau gweledol cyfoes gyda phrofiad o reoli comisiynau celfyddydol a rhaglennu. Byddwch yn rhoi cymorth ar unwaith i Reolwr y Celfyddydau Gweledol wrth gyflwyno comisiwn artist NCAGW penodol a gweithio ar ddarganfod comisiynau posibl pellach yn y dyfodol.

‘Rydym yn edrych am ymarferydd creadigol sydd â phrofiad o ddyfeisio a chyflwyno gweithgaredd ymgysylltu o fewn y celfyddydau gweledol cyfoes. Byddwch yn hyderus wrth reoli prosiect ac yn cefnogi Rheolwr y Celfyddydau Gweledol i ddyfeisio strategaeth ymgysylltu ymarferol ar gyfer rhaglen y celfyddydau gweledol cyfoes. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddog Dysgu NCAGW, yn ogystal a swyddogion ymgysylltu eraill sy’n bodoli ar draws rhwydwaith partneriaid NCAGW gyda’r bwriad o adnabod cyfleoedd o gydweithio.

Bydd y prosiect yn dechrau cyn gynted â phosibl ar gyfer pob un o’r 3 rôl lawrydd, ac yn para tua 6 wythnos gan gynnwys gwerthusiad ac adroddiad camau’r dyfodol, gyda’r holl waith wedi’i gwblhau erbyn dydd Iau 28 Mawrth 2024.

Y ffi sy’n daladwy ar gyfer cyfnod y cytundeb rhwng Chwefror 2024 a Mawrth 2024 yw £2,000 ynghyd â swm cymedrol ar gyfer costau deunyddiau a theithio.

Dyddiad cau Dydd Gwener 9fed Chwefror

I gyflwyno cais anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol un-dudalen atom yn nodi paham yr hoffech ymgymryd â’r gwaith hwn a’r profiad sy’n eich gwneud yn ymgeisydd llawrydd addas.

Anfonwch i David Wilson daw81@aber.ac.uk