MYRIORAMA
Chwefror 10fed – Mai 6ed
Oriel 2
200 mlynedd yn ôl creodd J.H. Clark a S. Leigh gêm oedd yn seiliedig ar ffasiwn newydd oedd yn ‘sgubo ar draws Ewrop. Yn golygu ‘llawer o olygfeydd’, ‘roedd Myriorama yn set o 16 o gardiau darluniedig y gellid eu haildrefnu i greu amrywiaeth o olygfeydd cydlynol oedd yn ddiddiwedd bron. Ymhell cyn dyddiau’r sinema ystyriwyd hyn yn ddifyrrwch gwych ar gyfer y teulu i gyd.
Mae Penny Hallas yn defnyddio ond yn gwyrdroi esthetig darluniadol delfrydoledig Myriorama, yn cyfuno ac yn cymysgu naratifau, gan gyflwyno’n fwriadol elfennau o anghytgord ac anaddaster fel ffordd o ymestyn sgyrsiau am sut yr ydym yn dirnad y tir mewn cyfnod o argyfwng amgylcheddol.