Ein Artist Preswyl
Mae Maxime Voidy yn artist sy’n cymryd rhan yn y fentr Ffrengig-Prydeinig MAGNETIC o dan ambarél prosiectau Fluxus Art. Mae Maxime yn arbenigo mewn ffotograffiaeth, ysgrythur, ac hanes. Ar ôl cwblhau Ysgol Gelf i wella ei ffotograffiaeth credodd Maxime ei bod yn bwysig i rannu’r hyn a welodd, a pha ffordd well i wneud hynny na ffotograffiaeth.
Mae prosiect diweddaraf Maxime, Locals Only, yn ffocysu ar yr effaith y mae twristiaeth yn cael ar gymuned unrhyw leoliad. Mae Maxime yn hanu o Lydaw yn Ffrainc sy’n debyg i Gymru mewn nifer o ffyrdd megis ei threfi glan môr a’i hiaith leiafrifol. Mae Ceredigion yn gam delfrydol ymlaen yn ei ymchwil wrth iddo ymgymryd â’i brosiect newydd.
Mae menter MAGNETIC wedi caniatau ffurfio’r bartneriaeth breswyl hon rhwng Llydaw a Chymru ac wedi galluogi Maxime i barhau i weithio ar Locals Only sy’n ehangu ei waith blaenorol yn dwyn y teitl Second Homes. Mae Locals Only yn ffocysu’n benodol ar yr effaith y mae twristiaeth yn cael ar gymunedau arfordirol a gallu’r bobl leol i brynu tai.
Coffi Mâl I Compost
Mae Caffi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi gwneud defnydd o weddillion coffi mâl trwy eu rhoi i ardd gymunedol Prifysgol Aberystwyth. Fe’u hychwanegir at y compost a fydd yn rhoi hwb maethol rhagorol i’r planhigion a dyfir yno. Mae Caffi’r Ganolfan am brynu cynnyrch o ardd gymunedol y Brifysgol er mwyn hyrwyddo defnydd adnoddau lleol a defnydd bwyd ffres.
Carbon Niwtral erbyn 2030
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi cymryd camau sylweddol o ran ei chynllun Carbon Niwtral a ddechreuodd yn 2023. Mae Caffi’r Ganolfan wedi gwneud newidiadau arwyddocaol i gynyddu cynaliadwyedd. I enwi ond ychydig: anfonir holl wastraff olew’r gegin i gael ei ailgylchu; anfonir pecynnau bwyd sy’n weddill i loches leol y digartref neu rewgell gymunedol y Brifysgol; mae cynwysyddion prydau parod bellach wedi eu gwneud o ddeunyddiau’n seiliedig ar bren neu blanhigion; a rhagor. Mae tîm technegol y Ganolfan yn ymwybodol iawn o faterion amgylcheddol gyda gwisgoedd a setiau yn cael eu hailddefnyddio a’u hailgylchu ers degawdau. Dros y deng mlynedd diwethaf mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi lleihau allyriadau C02 gan 40%.
Theatr Gymunedol
Mae Theatr Gymunedol wedi bod yn rhan o Aberystwyth erioed gyda llawer o gwmnïau theatr megis Castaway, Louche, Cwmni Ennyn / Awaken Productions a mwy. Mae’r rhain hefyd yn cynnwys y cynyrchiadau annibynnol a lwyfennir gan gymuned y theatr megis Vanity Fair (2023). Mae Richard Hull ynghyd ag Adran Ddysgu Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi cydnabod y gwaith hwn gan benderfynu cynnal sesiynau Theatr Gymunedol i gynhyrchu sioe ym mis Mehefin 2024 i’w pherfformio fel cynhyrchiad llwyfan ym mis Chwefror 2025. Mae hygyrchedd theatr gymunedol wedi bod yn destun pryder erioed, gan fod llawer yn teithio’n bell ac yn teimlo bod y pris o gymryd rhan yn rhy uchel yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. Mae Richard Hull wedi cynnig gwirfoddoli ei amser i gyfarwyddo’r theatr gymunedol ac mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi penderfynu gosod prisiau sy’n is na phris y farchnad am docynnau er mwyn bod yn fwy cynhwysol ac i alluogi mwy o bobl i gymryd rhan. Mae’r cyfle hwn yn un cyffrous i’r gymuned.
Hyfforddi Creadigol
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi derbyn chwe pherson ifanc trwy adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth. Gwneir hyn trwy’r Cynllun Hyfforddi Creadigol, lle gall Canolfan y Celfyddydau drefnu profiadau gwaith ar draws adrannau. Mae’r rolau yn cynnwys Gweinyddiaeth a Gweithrediadau, Gwerthu a Marchnata, gwaith Technegol (theatr/sinema), Rhaglennu Artistig a Dysgu Creadigol. Cyflwynwyd y cyfle hwn i’r myfyrwyr trwy Louise Ritchie sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.