Ewch at gynnwys

Mae Criw Celf yn brosiect ar gyfer artistiaid ifanc brwdfrydig a thalentog rhwng 9 a 18 oed sydd wedi’i gynllunio i feithrin talent ifanc yn y Celfyddydau Gweledol.

A hoffech chi weithio gydag artistiaid proffesiynol, ymweld â stiwdios ac arddangosfeydd, yn ogystal â chael y cyfle i arddangos eich gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a datblygu eich portffolio celf? Os felly byddwch wrth eich bodd gyda Chriw Celf Ceredigion!

Mae’r gweithdai creadigol yn anelu at ehangu gwybodaeth pobl ifanc am gelf, eu dysgu i feistroli technegau newydd, arbrofi, magu hyder a datblygu eu hiaith weledol eu hunain.

 

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image

Manylion Criw Celf 2024

Bydd ein rhaglenni Cynradd ac Uwchradd yn rhedeg yn ystod wythnos gyntaf gwyliau Haf yr ysgolion – dydd Llun 22ain – dydd Sadwrn 27ain Gorffennaf, 10.00am – 4.00pm

Gwahoddir ymgeiswyr o Flwyddyn 5 – 13 sy’n dangos diddordeb brwd yn y celfyddydau gweledol.

Codir tâl o £65 sy’n cynnwys costau’r holl weithgareddau, deunyddiau ac ymweliadau. Mae llefydd ar gael am ddim ar gyfer ymgeisiwyr llwyddiannus sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol rhad. ‘Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth bobl ifanc o bob cefndir ac ‘rydym yn brosiect cyfleoedd cyfartal.

 Diddordeb?

Rhaglen Criw Celf

Gweithdai gydag artistiaid proffesiynol

Cyfle i ddatblygu eich portffolio celf

Ymweliadau â stiwdios artistiaid ac arddangosfeydd eraill

Digwyddiad gyrfaoedd yn y celfyddydau

Cyfle i arddangos eich gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image