Ewch at gynnwys

Mae Sioe Haf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ôl!

Pan ddaw Charlie Bucket o hyd i un o’r pum tocyn aur i Ffatri Siocled Wonka, ni all Charlie a’r enillwyr eraill aros i wledda ar losin eu breuddwydion. Ond y tu hwnt i’r gatiau, maent yn darganfod llawer mwy na danteithion bwytadwy rhyfeddol. Wrth iddynt gychwyn ar daith eithriadol trwy feddwl anhygoel Willy Wonka, maent yn dysgu’n fuan nad oes neb yn gadael yr un ffordd ag y buont yn cyrraedd …

Yn seiliedig ar stori eiconig Roald Dahl a gyda Richard Cheshire yn cyfarwyddo, cyflwynir y fersiwn lwyfan ysblennydd hon o Charlie & the Chocolate Factory gan gast proffesiynol a band byw.

Mae’r sioe gerdd wych hon yn dilyn cynyrchiadau hynod lwyddiannus yn y West End a Broadway gan gyfuno caneuon cofiadwy y ffilm wreiddiol o’r 1970au (‘The Candy Man’ a ‘Pure Imagination’) gyda chaneuon newydd gan gyfansoddwyr caneuon aml-arobryn Hairspray.

Mae Roald Dahl’s Charlie and the Chocolate Factory yn rhan o dymor Haf Hyfryd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth – tymor cyfan o weithgareddau amrywiol wedi eu trefnu gan y Ganolfan! Edrychwch allan am weithgareddau a digwyddiadau ar draws Aber a’r cyffiniau, yn cynnwys gweithdai, digwyddiadau teuluol a chymunedol, a llawer o gyfleoedd lleol.

Peidiwch â methu’ch cyfle i brofi hudoliaeth Charlie and the Chocolate Factory – the Musical yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth – archebwch eich tocynnau ‘nawr!

Cynhelir perfformiad gydag Iaith Arwyddion Brydeinig (BSL) gan Tony Evans ar y dydd perfformiad dydd Iau 15fed Awst.

Canllaw Oed: 6+

Noddir tymor Haf Hyfryd Canolfan y Celfyddydau gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cronfa Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir Ceredigion.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Mae’r Gronfa yn anelu at wella balchder mewn lleoliadau a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a lle, a chefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus

Tocynnau