Ewch at gynnwys

Mae arddangosfa Erin Hughes “Floored//Flawed” yn nodi ei harddangosfa solo sefydliadol gyntaf, a gynhelir yn Oriel 2 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Tachwedd 2024. Mae’r arddangosfa arwyddocaol hon yn cyflwyno cymhlethdodau ei hymarfer collage faux-marblesy’n seiliedig ar broses. Mae’r sioe yn cynnwys gweithiau 2D ar raddfa fawr a chollage llawr sy’n gorchuddio holl ofod yr oriel, gan ychwanegu at ddehongliad materoldeb   ffug y gwaith celf. Mae taith ymchwil i’rEglwys Farmorym Modelwyddan, fideo ddogfennol a gomisiynwyd, a thestun i gydfynd â’r arddangosfa yn cwblhau’r gosodwaith. Bydd Hughes hefyd yn arwain gweithdai lle rhennir sgiliau ac yn cyflwyno anerchiad artist, gan feithrin ymgysylltiad cynulleidfa uniongyrchol gyda’r deunyddiau a’r cysyniadau.