“Achub Trwy’r Oesoedd’: gosodiad fideo ddau-sgrîn sydd yn dathlu diogelu bywydau ar y Môr am 181 o 200 o flynyddoedd yr RNLI. Mae’r gosodiad yn archwilio profiadau ac atgofion aelodau criw y gorffennol a’r presennol, gan amlygu eu hymroddiad a’u dewrder.
Aberystwyth, [Dyddiad] – Mae artist a gwneuthurwr ffilmiau Simon Clode mewn cydweithrediad gyda Deryncoch, yn falch o gyflwyno “Achub Trwy’r Oesoedd”, gosodiad fideo ddau-sgrîn teimladwy sydd yn archwilio tapestri cyfoethog o brofiadau ac atgofion a rhannwyd gan aelodau criw’r gorffennol a’r presennol Gorsaf Bad Achub Aberystwyth. Tra bod yr RNLI yn dathlu ei benblwydd yn 200, mae Aberystwyth wedi cynnal bad achub am 181 anhygoel o’r blynyddoedd yna, yn amlygu gwaddol hir o achub bywydau ar y môr.
Mae’r gosodiad yma yn plethu adrodd straeon dogfennol, mewnsylliad personol, a thalu teyrnged i natur dymhestlog y môr. Wedi ei osod mewn tref arfordirol lle all hwyliau’r cefnfor newid yn ddramatig, mae’r gwaith yn adlewyrchu harddwch a pheryglon bywyd morwrol. Wrth i bobl tyrru i’r arfordir i fwynhau glan y môr, mae cenhadaeth yr RNLI yn dod yn fwy hanfodol fyth, yn tanlinellu’r angen cynyddol am ddiogelwch a gwyliadwriaeth.
Trwy gyd-chwarae meddylgar o ddelweddau a naratif, mae Simon yn dal dilysrwydd profiadau dynol, gan wahodd y gynulleidfa i gysylltu â’r straeon dwys tu ôl i bob achub. Gan ddefnyddio elfennau o fontage Rwsieg, mae o yn cyferbynnu delweddau gyda naratif er mwyn ennyn cyseinedd emosiynol a dyfnhau ymgysylltiad y gwyliwr.
Nid yn unig yw “Achub Trwy’r Oesoedd” yn talu teyrnged i’r orsaf bad achub, ond mae hi hefyd yn annog myfyrio ar themâu o ddyletswydd, aberth, a’r rhwymau parhaol rhwng dynoliaeth a’r môr newidiol.
Amdan yr Artist
Simon Clode: Artist | Gwneuthurwr Ffilmiau o Simon Clode Films a Crowblack Films.
Mae Simon yn Artist, gwneuthurwr ffilmiau, a dyluniwr ffilmiau. Mae ei waith yn cymysgu disgyblaethau gwahanol, gan bwysleisio themâu ethnograffig, amgylcheddol a gwleidyddiaeth fyd-eang. Mae ei ffilmiau wedi ei eu harddangos mewn cystadlaethau mewn gwyliau cymhwyso BAFTA, ac maent wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y British Short Film Awards. Maen nhw hefyd wedi eu darlledu ar y BBC.
Gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae ffilmiau Simon wedi ymddangos yng ngŵyl celfyddydau cyfoes Palesteina, Qalandiya International, ac mewn orielau’r DU. Mae o hefyd wedi cydweithio gyda Gentle Radical ar eu ymgeisiad i’r Turner Prize 2021. Mae ei ymarfer artistig yn pwysleisio’r cyd-chwarae rhwng dogfennaeth naturoliaeth ac ymagwedd fwy pwrpasol tuag at ffilmyddiaeth, gan arwain at iaith weledol unigryw sydd yn cyseinio gyda cynulleidfaoedd amrywiol.
Derynoch
Mi sefydlwyd Deryncoch ym mis Tachwedd 2022 allan o brofiad Cyfarwyddwr Jacob Gough o weithio yn y sector celfyddydau a digwyddiadau am dros 20 mlynedd. Rydyn ni yn cyflenwi amrywiaeth eang o wasanaethau i’r sector Celf a Diwylliant, o gyflwyno digwyddiadau mawr i reoli prosiect ar gyfer darnau newydd o waith celf gyhoeddus dros dro a parhaol. Rydyn ni yn cynhyrchu theatr byw mewn lleoliadau di-draddodiadol ac yn cynnig ymgynghoriaeth ar gyfer digwyddiadau mawr gan sefydlu modelau gweithredu yn ogystal â chefnogi cwmnïau i fod yn fwy cynaliadwy a chynhwysol. Mae ein cleientiaid ar hyn bryd yn cynnwys Bradford2025, New Substance, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, SKYMAGIC, Frân Wen, Swansea City Council a mwy.
Ariannir “Achub Trwy’r Oesoedd” gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac RNLI Aberystwyth Crew Fund.
Dyddiadau arddangos:
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth: Dydd Llun 21ain Hydref – Dydd Iau 7fed Tachwedd 2024
Amgueddfa Ceredigion: Hydref 2024 – Ionawr 2025
Credydau Cynhyrchu
· Creuwyd gan Simon Clode
· Cynhyrchydd Jacob Gough
· Cynhyrchwyd gan Derynoch
· Ffilmyddiaeth: Matt Smith | Simon Clode | Leon Underwood
· Delweddau Drôn: Joby Newson | Peter Irvine
· Recordiadau Sain: Simon Clode | Oliver Morris
· Cynhyrchydd Cynorthwyol: Megan West
· Shipping Forecast © Crown Copyright, Maritime and Coastguard Agency, cyflwynir gan y Met Office. Nid yw’r gwybodaeth yn y rhagolwg yn ddilys.
· Gyda diolch arbennig i Oliver Morris ac RNLI Aberystwyth Lifeboat