Ebrill – Mehefin 15eg
Dyddiad agor i’w gadranhau oherwydd gwaith adeiladu yn yr oriel fel rhan o CELF- Yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru
Mae’r arddangosfa hon yn defnyddio technegau cudd o wneud ffilmiau – propiau, hidlwyr, golau a sain. Ar un lefel mae hi’n ymwneud â rhith a chuddio; ar lefel arall mae’n tynnu ar brofiad bywyd Shapland o gwiaredd wledig, gan dyfu i fyny’n perfformio. Rhoddodd hyn y teimlad iddo, os oedd yn pasio ac yn ymdoddi i mewn, yna ‘roedd y dirwedd o’i gwmpas yr un mor hydrin ac hylifol, yn esblygu’n gyson, wastad dros dro – yn stori.
Mae Celwyddgi Celwyddgi hefyd yn lansio testun Cymraeg newydd, Lan Stâr, a wnaethpwyd mewn deialog gyda’r bardd a’r artist Esyllt Lewis mewn ymateb i nofel gyntaf Shapland A Room Above a Shop a gyhoeddwyd gan Granta.
Llun Cynhyrchiad, Sŵn Na Ddylid ei Glywed [Darllediad] 2018. Ffotograff: David Cushway.
