Hydref 24ain – Mawrth 1af 2026
Rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan yn Artes Mundi 11 (AM11), prif arddangosfa ddwyflynyddol a gwobr celf gyfoes ryngwladol y DU. Dyma’r tro cyntaf i ni gymryd rhan, gan ymuno â phedair canolfan gelf gyfoes flaengar arall yng Nghymru.
Yn Aberystwyth, byddwn yn cyflwyno arddangosfeydd solo gan ddau o’r chwech artist ar y rhestr fer, Anawana Haloba a Sawangwongse Yawnghwe, a fydd yn cynnwys detholiad o weithiau newydd a rhai oedd yn bodoli eisoes, o osodiadau cerfluniol, gyda sain a phaentiadau ar raddfa fawr yn y drefn honno.
Yr arddangosfeydd solo mewn lleoliadau eraill ar gyfer AM11 yw: Sancintya Mohini Simpson yn Chapter, Caerdydd; Kameelah Janan Rasheed yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; a Jumana Emil Abboud ac Antonio Paucar ym Mostyn, Llandudno.
Cynhelir arddangosfa ar y cyd gyda’r chwech artist yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, hwb canoloig y prosiect. Bydd hon yn adlewyrchu themâu sylfaenol ymarfer pob artist a’r arddangosfa yn ei chyfanrwydd – straeon sy’n seiliedig ar draddodiadau, mudo, dadleoli ac alltudiaeth trwy hanesion gwladychiaeth, gwrthdaro a’r etifeddiaethau amgylcheddol a ddaw yn eu sgil.
Cyhoeddir enillydd y Wobr Artes Mundi 11 gwerth £40,000 a derbynnydd Gwobr Bryniad Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams ym mis Ionawr 2026 yn ystod yr arddangosfa.


