Ewch at gynnwys

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ymgymryd â Phrosiect Datblygu Busnes newydd sy’n ystyried ein systemau cysylltu gyda chynulleidfaoedd o ran cyfathrebu, anfon negeseuon a marchnata.

‘Rydym yn edrych am weithwyr proffesiynol profiadol ac ymroddedig ym maes marchnata celfyddydol i arwain y gwaith o reoli’r prosiect, rhoi strategaethau profi ar waith a chyflwyno gweithgarwch ymgyrchu newydd mewn 3 rhan o’r prosiect hwn.

Hoffem glywed gan bawb sydd â diddordeb ac ‘rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer un rhan neu fwy o’r prosiect fel a ganlyn:

Rhan 1: Rheoli prosiect a gosod strategaeth: Nodi negeseuon a yrrir gan gynulleidfaoedd a data, dadansoddi brandiau a datblygu strategaeth ymgyrchu; bydd angen cyflwyno’r pecyn gwaith erbyn diwedd mis Awst. Amcangyfrif o’r ffi lawrydd – tua £13,500.

Rhan 2: Cyflwyno’r negeseuon: Gweithredu’r ymgyrch, ymgymryd â marchnata a phrofi’r farchnad. Bydd angen ymgymryd â chyflawni’r marchnata o fist Awst tan ganol mis Rhagfyr. Amangyfrif o’r ffi lawrydd – tua £16,000.

Rhan 3: Adolygu effaith y prosiect: Gwerthuso ac adrodd ar effeithiolrwydd y strategaeth ac effaith cyflawni’r marchnata. Bydd angen cyflwyno’r holl adroddiadau erbyn diwedd mis Rhagfyr. Amcangyfrif o’r ffi llawrydd – tua £5,000.

‘Rydym wedi dosrannu symiau tybiedig i bob rhan o’r prosiect ac mae gennym gyllideb ar wahân o dua £17,000 ar gyfer gweithgaredd marchnata, print, a deunyddiau digidol ac hygyrchedd, ond ‘rydym yn hapus i dderbyn cynigion cyllideb diwygiedig gan ymgeiswyr fel rhan o’u cyflwyniad.

Gellir cyflwyno Rhannau 1 a 3 o bell/hybrid, ond ‘rydym yn rhagweld y bydd Rhan 2 yn cynnwys mwy o waith uniongyrchol yn y ganolfan a gyda’n tîm, a bydd presenoldeb corfforol yn bwysig.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch gyflwyniad byr mewn ymateb i’r gwahanol rannau, gyda chynigion ariannol a CV, at Louise Amery lla@aber.ac.uk erbyn 8.30am Dydd Mercher 10fed  Gorffennaf.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cronfa Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir Ceredigion.