Ewch at gynnwys

A oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa fel technegydd theatr? A ydych yn ymddiddori mewn goleuo, sain neu reoli llwyfan?

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnig Prentisiaeth Technegydd Theatr 12-mis, mewn partneriaeth gyda Chanolfan Mileniwm Cymru.  Mae’n gyfle gwych i ddysgu’r grefft trwy gyfuniad o hyffordiant yn y gwaith a chefnogaeth gan dimau theatr proffesiynol Cymru. Mae ein holl brentisiaid blaenorol wedi mynd ymlaen i weithio fel technegwyr proffesiynol mewn canolfannau neu ar deithiau rhyngwladol, neu fel technegwyr llawrydd prysur.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ond yn cael ei gyflogi gan Ganolfan Mileniwm Cymru.  Gweithredir y brentisiaeth ar y cyd gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, a fydd y darparwr addysg bellach ar gyfer ochr gymhwyster y brentisiaeth sy’n arwain at Dystysgrif BAIIB (Lefel 3) mewn Theatr Dechnegol. Yn ogystal, byddwch hefyd yn ennill Gwobr Efydd ABTT (yn arbenigo mewn Rigio, Rhaffau a Chlymau a Gwaith Trydanol) a byddwch yn ymgymryd ag hyfforddiant proffesiynol pellach gydag ETC Connect (desg oleuo), Hyfforddiant TTS (profion PAT), Total Training Solutions (rigio) a Nationwide Platform (MEWPs) i enwi ond ychydig.

Cynhelir wythnos sefydlu yng Nghaerdydd, ac o bosibl wythnosau eraill yng Nghaerdydd ar gyfer hyfforddiant ‘i ffwrdd o’r gwaith’ safonol y diwydiant gydag aelodau Cymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (a darparwyr eraill). Darperir llety yng Nghaerdydd os oes angen. Gall fod cyfle hefyd i brentisiaid gyfnewid lleoliadau o bryd i’w gilydd, er mwyn ehangu eu profiad.

Nodwch os gwelwch yn dda yn unol â gwaith mewn amgylchedd prysur y theatr, ni fydd yr oriau yn 9am – 5pm Dydd Llun tan Dydd Gwener!  Mae’n rôl lawn-amser (35 awr) a bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau, felly ‘rydym yn eich annog i feddwl yn ofalus iawn a yw’r math hwn o waith yn addas i chi ac i feddwl hefyd am eich trefniadau teithio – a ydynt yn ymarferol ac yn bosibl ar hyn o bryd.

Cyflog £11,648.   Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Pete Lochery pdl@aber.ac.uk

Am ragor o wybodaeth am y cynllun prentisiaeth ymwelwch â  –https://www.wmc.org.uk/en/what-we-do/careers-and-jobs/technical-apprenticeships

I gyflwyno cais anfonwch amlinelliad o’ch profiad hyd yma gan egluro paham yr hoffech gael eich ystyried at lla@aber.ac.uk erbyn 31 Gorffennaf.

Cyfweliadau:  9 Awst (unai yn y Ganolfan neu ar-lein).

Bydd y Brentisiaeth yn dechrau gydag Wythnos Sefydlu yng Nghaerdydd yn dechrau ar 30 Medi  2024.