Ewch at gynnwys

Ebrill 4ydd- Mehefin 8fed 

Cyrhaeddodd Bruce Cardwell Aberystwyth ym 1981 i astudio yn y brifysgol, ac nid yw ei hoffter o’r dref wedi pylu hyd heddiw.

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu’r bobl sy’n siapio natur cymuned Aberystwyth, cymuned Gymreig lewyrchus sydd â chymysgedd amrywiol o ddiwylliannau ac hunaniaethau.

Efallai y bydd y sawl sy’n edrych ar Aberystwyth ar fap yn gweld tref fach anghysbell ar arfordir gorllewinol Cymru, ond mae “Byd Bach Aber” yn dangos mai dyma’r hwb y mae’r byd hwn yn troi o’i gwmpas mewn gwirionedd.

Agorwch eich llygaid….