Ewch at gynnwys

Ôl-Finimaliaeth a Phrofiad y Gwyliwr

‘Rwy’n artist ac ymchwilydd sy’n byw yn Ne Cymru. Gan weithio gyda thecstilau a deunyddiau hyblyg eraill, ‘rwy’n cynhyrchu cerfluniau haniaethol sy’n ymgorffori amwysedd, amhenodolrwydd a gonestrwydd. Mae’r ffurfiau meddal yn archwilio’r berthynas rhwng y gwyliwr a’r gwaith celf yng nghyd-destun y profiad. Mae’r gweithiau hyn yn gwahodd y gwyliwr i geisio ystyr trwy brofiad deunydd, proses a ffurf. Mae mynegiant yr artist yn cael ei leihau er budd mynegiant y ddefnydd.

Bu f’ymarfer yn datblygu ffocws academaidd wrth i mi gwblhau f’ymchwil ddoethurol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ar y thema ôl-finimaliaeth a phrofiad y gwyliwr. ‘Rwy’n ymddiddori yn y ffenomen nad yw symlrwydd ffurf o reidrwydd yn arwain at brofiad syml. Felly, ‘rwy’n defnyddio rhywfaint o aflunieidd-dra, cynildeb neu wacder yn fy ngweithiau, fel eu bod yn parhau i fod yn gynnil ond yn dal yn ddiddorol yn weledol ac yn gysyniadol. Defnyddir hefyd elfennau cyferbyniol – fel trefn yn erbyn llanast a phaentio yn erbyn cerflunwaith – i danseilio darlleniad unigol ymhellach a chreu gweithiau sy’n agored o ran ffurf ac nid yn agored i ddehongliad yn unig.’

 

@CrisiantArtist

(Llun: Strands 2025)