Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 10 Rhag
·
Storytelling

Event Info

Canllaw Oedran: 8+ oed

Rhediad: 1 awr 20 munud gan gynnwys toriad

Lighthouse Theatre CIO

yn cyflwyno

A Child's Christmas

gan

Dylan Thomas a Richard Burton

A Child's Christmas in Wales gan Dylan Thomas

‘Snow grew overnight on the roofs of the houses’

Mae Dylan Thomas a Richard Burton yn eiconau o Gymru’r ugeinfed ganrif. Maent wedi cynhyrchu straeon am y Nadolig yng Nghymru sy’n cystadlu â straeon byrion Charles Dickens am y Nadolig yn Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mewn rhai ffyrdd gellir cyhuddo Thomas a Burton o ddyfeisio’r Nadolig yn yr union un ffordd ag y mae Dickens yn gyfrifol am greu’r Nadolig yr ydym yn ei fwynhau gymaint.

Er hynny oll, fodd bynnag, ‘roedd Burton a Thomas yn actorion ac mae eu cariad tuag at eiriau yn disgleirio trwy’r ddwy stori fer a chalonogol hon.

Wedi’i disgrifio gan y South Wales Evening Post fel ‘llawenydd pur’, mae’r Sioe Nadolig Eiconau Cymreig hon a berfformir gan ddau actor wedi bod yn hynod boblogaidd.

‘There were very few white Christmases in my part of Wales’…. A Christmas Story gan Richard Burton

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 10 Rhagfyr, 2025
19:00