Event Info
Mae'r sioe aml-arobryn hon a gafodd ei ffilmio’n ddiweddar yn Theatr Peacock Sadler's Wells yn daith gerddorol ryfeddol sy'n talu teyrnged i Janis Joplin a'r sawl a ddylanwadodd arni.Fel comed sy'n llosgi'n rhy llachar i bara, ffrwydrodd Janis Joplin ymlaen i’r sîn gerddoriaeth ym 1967 a, bron dros nos, daeth yn frenhines roc a rôl. Bu’r llais digamsyniol, yn llawn emosiwn pur ac wedi'i liwio â Southern Comfort, yn denu cynulleidfaoedd orlawn o Monterey i Woodstock. Yn cynnwys caneuon bythgofiadwy fel "Me and Bobby McGee," "Piece of My Heart," "Mercedes Benz," "Cry Baby" a "Summertime," mae’r sioe yn nodweddu cast rhyfeddol a pherfformiadau gwych. Mae ‘A Night with Janis Joplin’, wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Randy Johnson, yn daith gerddorol sy'n dathlu Janis a'i dylanwadau cerddorol mwyaf - eiconau megis Aretha Franklin, Etta James, Odetta, Nina Simone a Bessie Smith, a ysbrydolodd un o enwau mwyaf roc a rôl.
132 munud gan gynnwys egwyl.