Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 12 Tach
·
Sinema

Event Info

Mae Abertoir, Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru, yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed! Gydag amserlen gwbl orlawn, byddwn yn ymdrin â phopeth o ffilmiau clasurol i ragolygon o ffilmiau newydd sbon heb eu rhyddhau yn y DU, perfformiadau byw, sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a llawer mwy. Mae'r pas hwn yn rhoi'r hawl i chi gael popeth sydd gennym ar gael yn Abertoir, o 12fed-16eg Tachwedd 2025. Ar gyfer unrhyw un dros 18 oed yn unig.

 PWYSIG: Mae tocynnau ar gyfer Garth Marenghi’s This Bursted Earth ar noson 12fed Tachwedd yn cael eu rheoli ar wahân, ac maent ar agor i'r cyhoedd y tu allan i'r ŵyl. Mae eich tocyn yn cynnwys mynediad i’r sioe, yn amodol ar argaeledd, ond RHAID i chi gadarnhau presenoldeb trwy archebu tocyn ar wahân sydd ar gael YN UNIG o'r Swyddfa Docynnau ar ôl i chi gael eich pas. Hawliwch eich tocyn dim ond os ydych chi'n siŵr y byddwch chi'n mynychu.

 I gael eich tocyn Garth Marenghi pan/ar ôl i chi brynu eich pas:

 E-bost: artstaff@aber.ac.uk

Ffôn: 01970 623232

 

Os ydych chi'n teimlo yr hoffech chi gefnogi'r ŵyl gydag ychydig bach yn ychwanegol, wrth i chi dalu bydd gennych chi'r opsiwn o wneud rhodd yn uniongyrchol i Abertoir. Mae hyn yn gwbl ddewisol, a dim ond os oes gennych chi'r modd i wneud hynny yr ydym yn eich annog i ystyried hyn.

 Gallwch wneud eich rhodd YMA

 Am gyhoeddiadau ymlaen llaw am y rhaglen, gan gynnwys ein datgeliad diweddaraf, ewch i www.abertoir.co.uk. Bydd y rhaglen lawn yn cael ei datgelu ym mis Hydref.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein 20fed Abertoir!

 

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mercher 12 Tachwedd, 2025
16:00