Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 16 Tach
·
Sinema

Event Info

(Hélène Cattet & Bruno Forzani, Gwlad Belg/Lwcsembwrg/Yr Eidal/Ffrainc 2025, 87 mun, is-deitlau Saesneg)

Mae John D (Fabio Testi), sy’n byw ei saithdegau mewn gwesty moethus ar y Côte d'Azur, wedi'i swyno gan ei gymydog drws nesaf sy'n ei atgoffa o'r oriau gwylltaf ar y Riviera yn ystod y 1960au. Bryd hynny, roedd yn ysbïwr mewn byd addawol oedd yn datblygu'n gyflym. Un diwrnod, mae'r cymydog yn diflannu'n ddirgel...gan ddod â John wyneb yn wyneb â'i gythreuliaid: a yw ei gyn-elynion yn ôl i greu anhrefn yn ei fyd delfrydol?

Swnio'n syml? Arhoswch chi. Rydym wedi dangos bron pob un o ffilmiau Cattet a Forzani yn Abertoir, felly ‘roedd yn amlwg bod rhaid i ni ddod â’u diweddaraf i'r sgrin fawr. Mae hon yn deyrnged freuddwydiol i'r genre Eurospy gydag estheteg a allai fod wedi dod yn syth o'r 60au. Mae'n ffilm wedi’i chrefftio’n steiliog, celfydd ac yn haeddu cael ei weld yn fawr ac yn uchel.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sul 16 Tachwedd, 2025
18:00