Event Info
(Douglas Hickox, DU 1973, 104 mun) gyda sylwebaeth byw
Pan gaiff yr actor profiadol o Shakespeare, Edward Lionhart (Vincent Price), ei anwybyddu am wobr Cylch y Beirniaid, mae'n dial yn farwol ar y rhai a'i diystyrodd. Nid yw erioed wedi bod yn anoddach bod yn feirniad!
Cyflwynir y gomedi arswyd nodedig hon, gyda chast anhygoel tu hwnt i’n hanwylyd Vincent Price, gyda thro arbennig iawn: sylwebaeth fyw gan Victoria Price, merch Vincent, yr arbenigwr Peter Fuller, a John L. Probert, awdur a – uh-oh! – beirniad.