Event Info
Dydd Llun, 7.30-9.30pm Ystafell Ymarfer 1
Mae Theatr Gymunedol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn caniatáu i unrhyw un gael profiad theatrig: ar lwyfan, cyfarwyddo, cymorth technegol neu fod yn rhan o’r “criw”. Anelwn osod dau gynhyrchiad y flwyddyn: un ar brif lwyfan Theatr y Werin ac un arall yn y Stiwdio Gron. O hydref 'ma ymlaen byddem yn ymarfer sgript newydd The Tenant of Wildfell Hall, i’w llwyfannu ym mis Mawrth 2026.
Mae aelodaeth o'r grŵp yn agored i bawb, waeth beth fo'u profiad neu gymhwyster. Mae cost tanysgrifio fach iawn o £25 - am ragor o wybodaeth cysylltwch â takepart@aber.ac.uk