Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 11 Med
·
Comedi

Event Info

Al Murray: All You Need Is Guv 

Sioe Newydd Sbon

Hei bobol cŵl! Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei daith 138-dyddiad o gwmpas yr ynysoedd gwyrdd a grŵfi hyn, mae The Guv yn ôl gyda sioe stand-yp newydd sbon ar gyfer 2026. ‘Does dim gwadu bod y byd yn llanast llwyr bois, ond mae ‘na lygedyn o obaith wrth i Dafarnwr mwyaf poblogaidd y byd ddychwelyd gyda'i sylwadau Synnwyr Cyffredin digyffelyb, gan gynnig tonig gwirionedd sydd ei wir angen (peint i'r bois/gwydraid o win gwyn i'r merched) ar gyfer yr amseroedd gwallgof a chythryblus hyn. Gyda pheint ffres ac ewynnog wrth law, casgen o chwerthin i dywallt ohoni, a blodyn yn ei galon, Guv yw'r cyfan sydd ei angen arnoch.

Ac i'r rhai dewr, beiddgar a gwirion bost yn eich mysg sydd am fod yn rhan o'r gweithredu yn y 'Splash Zone', archebwch nhw'n gyflym a gwisgwch y ponsios diawledig!

★★★★★

‘Perfformiwr caboledig dros ben’ Mail on Sunday 

★★★★

‘Stwff cythreulig o ffraeth’ The Telegraph

‘Mae'n parhau i fod yn un o'r pleserau mawr ym myd comedi i weld y Tafarnwr ei hun yn dod yn gyfaill i, ac yn bychanu'r rhesi blaen’ The Times

 BYDDWCH YN RHAN O’R PARTH ‘SBLASH’

 Gwyliwch y sioe yn y ffrynt a’r canol yn y Parth Sblash! Mae'r tocyn yn cynnwys ponsio, tystysgrif wedi'i llofnodi a swfenîr ar ffurf laniard.

*Ni ellir gwarantu sblashio.

CYFARFOD A CHYFARCH - ARCHEBWCH YMA

Ffansïo sgwrs bach efo’r Tafarnwr? Dewch i gwrdd â Brenin y Cwrw am ffoto cyn y sioe. Yn cynnwys cerdyn post i’w lofnodi gan y dyn ei hun!

*Pecyn wedi’i uwchraddio yw hwn ac nid yw'n cynnwys tocyn. Rhaid prynu tocynnau ar wahân. Dim ad-daliadau na chyfnewidiadau.

Cyfyngiad Oedran: 14+ oed YN UNIG

Trefn Amseri: 45 munud/toriad 20 munud/60 munud

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 11 Medi, 2026
19:30