Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 21 Meh
·
Teulu

Event Info

Canllaw Oedran: Addas i bawb

Rhediad: 75 munud (dim toriad)

Os ydych yn caru anifeiliaid, byddwch yn caru’r sioe hon. Sioe sy'n ymroddedig i ac yn dathlu creaduriaid, mawr a bach. Yr unig sioe o gwmpas lle y gallwch weld Crocodeiliaid maint llawn, Diogynnod, Ceirw, Deinosoriaid, Pengwiniaid, Orangwtaniaid ac efallai hyd yn oed Sgỳnc chwistrellu yn ffrwydro ymlaen i’r llwyfan reit o flaen eich llygaid.

Mae’r sioe dwymgalon hon sy’n llawn cerddoriaeth, comedi ac effeithiau anifeiliaid anhygoel yn addas ar gyfer pob oedran, o blant bach i oedolion.

Archebwch ar gyfer eich teulu ‘nawr a dewch i gael profiad sy’n rhuo!

Dyma’r sioe deuluol berffaith. Fodd bynnag, peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, dyma rai o’r sylwadau a wnaethpwyd am ein taith ddiwethaf:

Sioe ffantastig heddiw, yn sicr yn werth y daith, dyma’r ail dro i ni weld y bois hyn, lot o chwerthin i’r plant a’r oedolion. Byddwn yn bendant yn archebu eto os oes taith newydd y flwyddyn nesaf - Steven Hatton

Yn wir ‘dwi erioed wedi chwerthin a chrio cymaint mewn un sioe. Adloniant gwych, gymaint o hwyl ac yn addysgiadol dros ben....yn seiliedig ar neges mor bwerus, emosiynol a phwysig am ein planed a'n hanifeiliaid. Dylai pob plentyn (ac oedolyn) weld y sioe hon, mae'n hollol anhygoel! - Heather Louise

 Sioe anhygoel a fwynhawyd i’r eithaf gan fy mhlant 3, 6 a 9 oed - a’r oedolion hefyd!!  Erioed wedi bod i sioe fel hon a byddwn yn bendant yn dod eto. Diolch - Sarah Battye

Bu fy mab 8 oed yn chwerthin gydol y sioe a daeth adref yn rhannu efo’i chwaer llwyth o ffeithiau newydd ‘roedd wedi eu dysgu, ‘roedd wrth ei fodd. Diolch o galon x - Alison Pearsey

‘Roedd y plantos wedi gwirioni o'r dechrau - ‘roeddech chi'n gwneud y sioe yn ddoniol, yn ddiddorol ac yn addysgiadol - O, ac a wnes i sôn am ddoniol? Haha... Mae fy machgen 8 oed ‘nawr eisiau achub pob anifail ar y blaned... Diolch Animal Guyz - Leanne Howson

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sadwrn 21 Mehefin, 2025
12:00
Dydd Sadwrn 21 Mehefin, 2025
14:30